SL(5)375 - Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
Cefndir a Diben
Gwneir y rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn mynd i’r afael â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol, a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth, sy'n gymwys o ran Cymru, sy'n berthnasol i adnabod gwartheg; y fasnach mewn anifeiliaid a chynhyrchion perthynol; archwilio am weddillion a therfynau uchaf gweddillion mewn cysylltiad ag anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid; enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy; marchnata hadau ac iechyd planhigion.
Gweithdrefn
Cadarnhaol.
Craffu ar faterion technegol
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Mae Rheoliad 7 yn diwygio “Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Uchaf Gweddillion) (Cymru) 2019”. Nid oes Rheoliadau o'r fath yn bodoli. Deallir y bwriedir eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol cyn i'r Rheoliadau presennol gael eu gwneud. Os na wneir hynny, ni fydd rheoliad 7 yn cael unrhyw effaith. [Rheol Sefydlog 21.2(vi) – gwaith drafftio diffygiol]
2. Mae Rheoliad 8 yn diwygio “Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019”. Nid oes Rheoliadau o'r fath yn bodoli. Deallir y bwriedir eu gwneud o dan y weithdrefn gadarnhaol cyn i'r Rheoliadau presennol gael eu gwneud. Os na wneir hynny, ni fydd rheoliad 8 yn cael unrhyw effaith. [Rheol Sefydlog 21.2(vi) – gwaith drafftio diffygiol]
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
Mae'r Rheoliadau hyn yn honni eu bod yn diwygio dwy set o Reoliadau nad oedd wedi'u gwneud eto pan ddrafftiwyd yr adroddiad hwn. Mae hynny'n arwydd clir iawn o'r pwysau y mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio oddi tanynt a'r polisïau a ddatblygir yn gyflym y ceisir eu gweithredu. [Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.]
Ymateb y Llywodraeth
Mae’r Pwyllgor wedi codi dau bwynt adrodd o dan Reol Sefydlog 21.2(v).
Amseriad diwygiadau
Gyda golwg ar reoliad 7, sy’n diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Uchaf Gweddillion) (Cymru) 2019, mae’r pwynt adrodd cyntaf yn awgrymu bod y drafftio yn ddiffygiol am nad yw’r rheoliadau yn bodoli. Nodir bod bwriad i’w gwneud o dan y weithdrefn negyddol cyn i’r Rheoliadau dan sylw gael eu gwneud ac os na wneir hynny, na fydd rheoliad 7 yn cael unrhyw effaith.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn cytuno bod y darpariaethau yn y Rheoliadau hyn yn gyfystyr â drafftio diffygiol, a hynny am fod Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Uchaf Gweddillion) (Cymru) 2019 i gael eu gwneud yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn ar 11 Mawrth, gan ddod i fodolaeth cyn y Rheoliadau diwygio.
Amseriad diwygiadau
Gyda golwg ar reoliad 8, sy’n diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019, mae’r ail bwynt adrodd yn awgrymu bod y drafftio yn ddiffygiol am nad yw’r rheoliadau yn bodoli. Nodir bod bwriad i’w gwneud o dan y weithdrefn gadarnhaol cyn i’r Rheoliadau presennol gael eu gwneud ac os na wneir hynny, na fydd rheoliad 8 yn cael unrhyw effaith.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn cytuno bod y darpariaethau yn y Rheoliadau hyn yn gyfystyr â drafftio diffygiol, a hynny am fod Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 i gael eu trafod ar 19 Mawrth a bod Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 i gael eu trafod ar 26 Mawrth. Mae’n dilyn y bydd cyfnod ar gael pryd y gellir gwneud y Rheoliadau fel eu bod yn dod i fodolaeth cyn y Rheoliadau diwygio hyn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
6 Mawrth 2019